1 Gwyllt yw ni wn ai gwell dim
2 gweled Dauydd ap Gwilim
3 ai le dwyllvraw elw dullvreg
4 ail Wenwlydd yw Dauydd deg
5 da im gwydd ysgwydd esgud
6 a drwg i'm absen a drud
11 dywad gelwydd myn Dewi
12 a phrover pan vyner vi
13 tyngodd na wnaf am tavawd
14 goreu gwr ond gwyro gwawd
15 arwydd na mynnwn eiriawl
16 wyro er moed air or mawl
17 symyl hwyl ys aml holion
18 os hoff gan Ddauydd ison
19 hoff gan bob edn aflednais
20 ym medw gled lwysed i lais
21 dryglam oer drwy gwlm eiriau
22 ir dyn o honom ni'n dau
23 a diva ar i davawd
24 lle bai a newidiai wawd
25 cyd bo cryg ennyg ynni
26 ynhwf dig ynhavod i
27 [355] nid vngamp onid angerdd
28 nid cryg myn Mair gair or gerdd
29 hobi hors ymhob gorsedd
30 a vv hoph ni veie i wedd
31 degle'n nes dwyglun essydd
32 diflas yw dan daflv'n sydd
33 dilis ni bu hudoliaeth
34 o brennial wan weithian waeth
35 ail yw'r organ ym mangor
36 rhai ai can er rhuo cor
37 y vlwyddyn erlyn oerlef
38 daith oer drud ydoeth ir dref
39 pawb oi goffr a roe offrwm
40 or plwyf yr a ganai'r plwm
41 trydar i daervar ar darf
42 trydydd yw Dauydd dewvarf
43 hof oedd yngwynedd meddynt
44 yn newydd i gywydd gynt
45 bellach gwywach i gywydd
46 aeth yngwyllt i waith yngwydd
47 pa ham ar gam Gymraeg
48 na wyl mab ardudvyl deg
49 pwy yw ef ddiglef ddeuglwyf
50 a phwy wyfinneu hof wyf
51 o bai decaf gan Ddauydd
52 heb gel gaphel rhyvel rhydd
53 bygwl gwlad vydd rhuad rhai
54 bowddyn oedd na'm rhybuddiai
55 rhag ynghael ynghwlm coddiant
56 yn lledrad val y cad cant
57 ceisiodd vi casaodd vudd
58 bribiwr y gerdd heb rybudd
59 ni roe neb oni rown i
60 seren bren ei i sori
Gruffith Gryg